Mae Cyngor Cymuned Llanrhystud yn edrych am gynrychiolwyr trigolion y gymuned i ymuno ag Is-Grŵp y Maes Chwarae er mwyn cyfrannu at trafodaethau ynglyn a’r cynllun i ail-wampio’r maes chwarae.
Hoffwn glywed wrthoch os ydych yn defnyddwyr rheolaidd o’r maes chwarae ac os oes brwdfrydedd gennych i weld newidiadau a fydd yn fuddiol i iechyd trigolion ein cymuned – o bob oedran.
Os oes gennych profiad mewn ysgrifennu ceisiadau am gyllid, byddai eich sgiliau yn fuddiol iawn i’r Cyngor Cymuned ac hoffwn glywed wrthoch.
Defnyddiwch y dudalen cyswllt ar y wefan i gysylltu gyda Clerc y Cyngor Cymuned, os oes diddordeb gennych.