HYSBYSIAD CYHOEDDUS
Hysbysir drwy hyn fod yna 1 sedd wag achlysurol ar gyfer swydd Cynghorydd ar Gyngor Cymuned Llanrhystud (Ward Haminiog).
Gall unrhyw ddeg etholwr yn ardal etholiadol Cyngor Cymuned Llanrhystud (Ward Haminiog) ofyn am etholiad i lenwi’r 1 sedd wag drwy hysbysiad yn ysgrifenedig wedi ei gyfeirio a’i drosglwyddo i mi yn Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, ar 03/07/2025 neu cyn hynny.