Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn ail-wynebu ffyrdd o fewn Llanrhystud, o’r Neuadd Goffa i’r porth gogleddol 40 mya.
Bydd y gwaith yn cael ei wneud dros nos a bydd yn cynnwys cau ffyrdd rhwng 19:00 – 06:00 ar 7/9/26 i 18/9/26, er nid ar ddydd Sadwrn na dydd Sul.
Bydd rhan o’r gwaith yn golygu cau’r B4337, hyd at Allt Fach.
Cynhelir mynediad i drigolion, bysiau a gwasanaethau brys drwy gydol y gwaith.
Os oes unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Cynghorydd Gwyn Evans.