Mae Cyngor Cymuned Llanrhystud yn edrych i gael yr ardal laswelltog nesaf at y bont, lle mae’r hysbysfwrdd cymunedol, wedi’i gydnabod yn swyddogol fel grîn y pentref. I wneud hyn rydym angen eich help.

Mae angen cymaint o dystiolaeth â phosibl o ddefnydd yr ardal ar gyfer digwyddiadau cymunedol, e.e. ras hwyaid y pentref, lleoliad y goeden Nadolig gymunedol, ac unrhyw ddefnyddiau eraill yr ydych wedi bod yn dyst iddynt neu y buoch yn rhan ohonynt. Yn ddelfrydol hoffem gynnwys lluniau, ond os nad oes gennych rai, neu os byddai’n well gennych beidio â’u rhannu, yna darparwch adroddiad ysgrifenedig o’ch profiad gyda dyddiad y digwyddiad, os yn bosibl.

Anfonwch eich tystiolaeth at y clerc drwy gyfeiriad e-bost y cyngor cymuned: clerc@cyngorcymunedllanrhystud.com

Categories: Newyddion


Datblygwyd y wefan gan | Website developed by Elfed Jenkins