Baner Diwrnod VE 80 (9.00am)

Codi baner Diwrnod VE 80 yn Neuadd Goffa Llanrhystud.

Canu Allan Mewn Dathliad (6.30pm)

Mae’n bleser gennym gadarnhau y bydd Eglwys Llanrhystud, yn cymryd rhan yn ‘Canu Allan i Ddathlu’ 80 mlynedd ers Diwrnod VE 80 – 8 Mai 2025, gan ddefnyddio eu rhan yn yr agwedd bwysig hon o hanes ein byd, i ddathlu, coffáu a thalu ‘teyrnged’ i’r miloedd o’r rhai o Gymru a dalodd yr aberth eithaf mor ddewr, gan frwydro dros y rhyddid yr ydym i gyd yn ei fwynhau heddiw.

Pysgod a Sglodion 

Oherwydd na chafodd Pysgod a Sglodion – hoff bryd Prydain, ei ddogni gan y Prif Weinidog Churchill yn ystod yr Ail Ryfel Byd i gyd, rydym hefyd am ddefnyddio’r achlysur hwn i barhau i dalu teyrnged i’r pysgotwyr dewr a fu’n pysgota’r moroedd a’r ffermwyr a’r merched tir a lafuriodd yn y caeau, trwy annog bwyta Pysgod a Sglodion trwy gydol y dydd, fel rhan o ddathliadau Diwrnod VE 80 ar 8fed Mai 2025.

Cwrdd wrth Neuadd Goffa Llanrhystud (9:00pm)

VE Day 80 Lamp o Heddwch, Teyrnged a Chân (9.30pm)

Gwahoddwn chi gyd i ddod at eich gilydd ar yr adeg hon, a chanu’r emyn gwladgarol Brydeinig hyfryd a dyrchafol – ‘I Vow To Thee My Country’. Nid yw hyn erioed wedi’i wneud o’r blaen, felly bydd yn dod â phobl, teuluoedd a chymunedau ein Cenedl fawr ynghyd ar un foment mewn amser, gan roi ‘teyrnged’ fendigedig i’r miliynau lawer a dalodd yr aberth eithaf yn ystod dyddiau tywyll yr Ail Ryfel Byd.

Categories: Newyddion


Datblygwyd y wefan gan | Website developed by Elfed Jenkins