Mae Cyngor Sir Ceredigion yn bwriadu gosod mesurau tawelu traffig newydd yn bennaf ar y B4337 yn Llanrhystud yn y Flwyddyn Ariannol hon 2025-26, fel rhan o Gynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, sy’n cael ei ariannu gan grant (o £150,000) gan Lywodraeth Cymru ac a ariennir yn rhannol gan Gyngor Sir Ceredigion.
Dengys y nodweddion tawelu traffig arfaethedig yn y cynlluniau drafft isod – Croesfannau Esgynnol (Raised Table Crossings) sydd hefyd yn cynorthwyo cysylltedd teithio llesol i gerddwyr a ddefnyddwyr cerbyday symudedd. Mae’r cynigion hyn ar sail gwella diogelwch ar y ffyrdd, gan nodi nad oes gan y B4337 ddarpariaeth droedffordd barhaus ar gyfer cerddwyr a defnyddwyr symudedd. Maent hefyd yn cael eu cefnogi gan yr Aelod Lleol, i helpu i greu gwell cysylltedd teithio llesol yng nghanol y pentref a ger yr Ysgol Gynradd.
Croesawir unrhyw adborth sydd gennych, trwy’r dudalen cyswllt.