Mae tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus Cyngor Sir Ceredigion wedi lansio cynllun gwirfoddol newydd o’r enw ‘Pencampwyr Llwybrau.’

Pwrpas Pencampwyr Llwybrau yw helpu i gefnogi a chynnal Hawliau Tramwy Cyhoeddus presennol ledled Ceredigion, gan gynnwys llwybrau troed a llwybrau ceffylau, ynghyd â gweithredu dulliau rheoli llystyfiant a fydd yn helpu i wella bioamrywiaeth. Y nod yw helpu i feithrin ymdeimlad o falchder, perchnogaeth a chyfrifoldeb rhwng unigolion, cymunedau, a’r mannau gwyrdd sydd ar gael ar garreg y drws, gan gynnig cyfleoedd i bobl ddysgu a rhannu sgiliau newydd wrth gyfarfod a gweithio gyda phobl eraill yn ei cymuned.

Rydym yn y broses o ‘recriwtio’ unigolion i ymuno â’r cynllun a dod yn Bencampwyr Llwybrau a byddem yn ddiolchgar pe gallech rannu’r wybodaeth hon ymhlith y Cyngor Cymuned i nodi a ydych chi’n teimlo bod ddiddordeb i sefydlu grŵp yn eich cymuned. Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn cyflenwi’r offer, yr hyfforddiant a’r adnoddau angenrheidiol. Os ydych chi’n teimlo y byddai grŵp yn llwyddiannus yn yr ardal, cysylltwch â ni fel y gallwn drafod y camau nesaf gyda chi.

Byddwn yn fwy na pharod i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych a mynychu unrhyw gyfarfodydd i drafod y cynllun yn fanwl. Edrychaf ymlaen at glywed gennych.

Os oes gennych ddiddordeb i fod yn rhan o dîm ‘Pencampwyr Llwybrau’ yng nghymuned Llanrhystud, cysylltwch gyda Cyngor Cymuned Llanrhystud trwy’r dudalen cyswllt neu trwy anfon ebost i’r clerc.

Categories: Newyddion


Datblygwyd y wefan gan | Website developed by Elfed Jenkins